Caerffosiaeth Lyrics
Adeiladau mileniwm
Mewn ffug alminiwm
Goruwch ystafelloedd
Am hanner miliwn o bunnoedd
Tyfwn adenydd
Tra'n yfed Ymennydd
Mewn tafarndai thema
A dim golwg o'r Wyddfa
Dw I'n byw a bod
Dw I'n byw a bod
Arnofio yn y bae
Yn y baw a'r dod
Coffi ewynnol Cyflog derbyniol
Argae uffernol Sgidiau ffasiynol
Saeri Rhyddion Yn rhedeg byrddion
Cyhoeddus anweddus Sefyllfa druenus
Dw I'n byw a bod Dw I'n byw a bod
Arnofio yn y bae Yn y baw a'r dod
Dw I'n rhan o'r atal genhedlaeth
Ymfudwn o amaeth
O gefn gwlad I Gaerffosiaeth
O gefn gwlad I Gaerffosiaeth
Dw I'n byw a bod Dw I'n byw a bod
Arnofio yn y bae Yn y baw a'r dod