Traditional: The Ash Grove 歌詞
The Ash Grove - Katherine Jenkins
Ym mhalas Llwyn Onn gynt fe drigai pendefig
Efe oedd ysgweiar ac arglwydd y wlad
Ac iddo un eneth a anwyd yn unig
A hi nol yr hanes oedd aeres ei thad
Aeth cariad i'w gweled yn lan a phur lencyn
Ond codai'r ysgweiar yn araf ac erch
I aethu'r bachgennyn ond gwyrodd ei linyn
A'i ergyd yn wyrgam i fynwes ei ferch
Rhy hwyr ydoedd galw y saeth at y llinyn
A'r llances yn marw yn welw a gwan
Bygythiodd ei gleddyf trwy galon y llencyn
Ond ni redai cariad un fodfedd o'r fan
Roedd golud ei darpar yn hen ac anynad
A geiriau diwethaf yr aeres hardd hon
Oedd 'Gwell gennyf farw trwy ergyd fy nghariad
Na byw gyda golud ym mhalas Llwyn Onn'
Mhalas Llwyn Onn'
相關歌曲
熱門歌曲