Suo Gan (From "Empire of the Sun")
Emilia Dalby, The London Esterhazy Orchestra, Graham Balby, The Sarum Voices2012年4月29日Suo Gan (From "Empire of the Sun") 歌詞
Suo Gan - Emilia Dalby/The London Esterhazy Orchestra/Graham Balby/The Sarum Voices
Huna blentyn yn fy mynwes
Clyd a chynnes ydyw hon;
Breichiau mam sy'n dyn am danat
Cariad mam sy dan fy mron;
Ni cha dim amharu'th gyntun
Ni wna undyn â thi gam;
Huna'n dawel anwyl blentyn
Huna'n fwyn ar fron dy fam
Huna'n dawel heno huna
Huna'n fwyn y tlws ei lun;
Pam yr wyt yn awr yn gwenu
Gwanu'n dirion yn dy hun
Ai angylion fry sýn gwenu
Arnat ti yn gwenu'n llon
Tithau'n gwenu'n ôl dan huno
Huno'n dawel ar fy mron
Paid ag ofni dim ond deilen
Gura gura ar y ddôr;
Paid ag ofni ton fach unig
Sua sua ar lan y môr;
Huna blentyn nid ces yma
Ddim i roddi iti fraw;
Gwena'n dawel yn fy mynwes
Ar yr engyl gwynion draw
相關歌曲
熱門歌曲